SL(6)230 - Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Rhif 3) (Cymru) 2022

Cefndir a Diben

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) 1989 ("y prif Reoliadau"), sy'n darparu ar gyfer codi ac adennill ffioedd am wasanaethau perthnasol a ddarperir o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 i ymwelwyr tramor.

Mae rheoliad 2 yn diwygio'r prif Reoliadau i fewnosod "Monkeypox" yn Atodlen 1 (clefydau na chodir ffi am eu trin). Mae rheoliad 2(2)(b) yn darparu o ran ffioedd yr aed iddynt mewn cysylltiad â gwasanaethau a ddarparwyd i ymwelydd tramor ar gyfer trin brech y mwncïod ar neu ar ôl 23 Mai 2022 ond cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym -

      os nad ydynt wedi eu codi eto, na chaniateir eu codi, 

 

      os ydynt wedi eu codi, na chaniateir eu hadennill, neu

 

      os ydynt wedi eu talu, fod rhaid eu had-dalu.

Gweithdrefn

Negyddol

Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd.  Gall y Senedd ddirymu'r Rheoliadau o fewn 40 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddyddiau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) mewn cyfnod o doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y’u gosodwyd gerbron y Senedd. 

Materion technegol: craffu

Nodwyd y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1. Rheol Sefydlog 21.2(iv) - ei bod yn ymddangos bod iddo effaith ôl-weithredol lle nad yw'r deddfiad sy’n ei awdurdodi yn rhoi awdurdod pendant ar gyfer hyn.

Nodwn fod Rheoliad 2(2)(b) yn nodi: "Services provided to an overseas visitor for the treatment of monkeypox on or after 23 May 2022 but before this paragraph came into force are to be treated for the purposes of these Regulations as if, at the time that the services were provided, they were relevant services in respect of which no charge may be made or recovered.”

Ymddengys bod effaith ôl-weithredol i’r ddarpariaeth hon, lle nad yw'r deddfiad sy’n awdurdodi (Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 yn rhoi awdurdod pendant ar gyfer hyn. A all Llywodraeth Cymru roi esboniad?

Rhinweddau: craffu    

Nodwyd y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

2. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Nodwn fod y confensiwn 21 diwrnod yn cael ei dorri (h.y. y confensiwn y dylai 21 diwrnod fod rhwng y dyddiad y gosodir offeryn “gwneud negyddol” gerbron y Senedd a'r dyddiad y daw'r offeryn i rym), a nodwn yr esboniad am dorri’r confensiwn a ddarparwyd gan Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, mewn llythyr at y Llywydd, dyddiedig 29 Mehefin 2022.

Yn benodol, nodwn y rhan ganlynol yn y llythyr:

"Gwnaed Rheoliadau 2022 a'u gosod cyn gynted ag y bo'n ymarferol er mwyn galluogi brech y mwncïod i gael ei gynnwys yn y rhestr clefydau yn Atodlen 1 sy’n esempt rhag ffi gan y GIG (pan fo angen triniaeth i ddiogelu iechyd y cyhoedd yn ehangach).

Os cedwir at y confensiwn 21 diwrnod, mae perygl (fel y mae DHSC wedi’i nodi mewn perthynas â'i deddfwriaeth yn Lloegr) y bydd ymwelwyr tramor yn peidio â cheisio triniaeth oherwydd pryderon am ffioedd, a thrwy hynny’n dod yn risg iechyd y cyhoedd i'r gymuned ehangach.

Mae peidio â chadw at y confensiwn 21 diwrnod yn caniatáu i Reoliadau 2022 ddod i rym cyn gynted ag y bo'n ymarferol, a thrwy hynny leihau'r risg i iechyd y cyhoedd yn ehangach."

3. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Nodwn na fu unrhyw ymgynghori ffurfiol ar y Rheoliadau hyn. Yn benodol, nodwn y paragraff a ganlyn yn y Memorandwm Esboniadol:

“It is considered that the proposed amendments do not require consultation as they are an urgent amendment to the Principal Regulations to protect the wider public health by including monkeypox as a disease, services for the treatment of which is exempt from NHS charges for overseas visitors and thereby ensuring that the risk to public health from infected visitors is minimised.”

4. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Nodwn nad oes asesiad effaith rheoleiddiol wedi'i baratoi ar gyfer y Rheoliadau hyn. Yn benodol, nodwn y paragraff a ganlyn yn y Memorandwm Esboniadol:

“A regulatory impact assessment has not been prepared in relation to these Regulations due to the need to put them in place urgently to respond to the current outbreak of monkeypox in the UK.”

5. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Mae Rheol Sefydlog 15.4 yn ei gwneud yn ofynnol i bob dogfen a osodir fod yn ddwyieithog "cyn belled ag y bo'n briodol o dan yr amgylchiadau ac yn rhesymol ymarferol." Nodwn nad yw'r Memorandwm Esboniadol ar gael yn Gymraeg. A all Llywodraeth Cymru roi esboniad?

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru mewn cysylltiad â phwyntiau un a phump.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

6 Gorffennaf 2022